Skip to main content
Dod o hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol

Gwasanaeth beta yw hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cymryd rhan yn ystod y cam cyn-ymgeisio

Cynnwys

  1. Yr hyn sy'n digwydd yn ystod y cam cyn-ymgeisio
  2. Yr hyn y mae'n rhaid i'r ymgeisydd ei wneud
  3. Sut gallwch gymryd rhan ar yr adeg hon
  4. Yr hyn y gallwch ei wneud os yw'r cais eisoes wedi cael ei gyflwyno

Yr hyn sy'n digwydd yn ystod y cam cyn-ymgeisio

Cyn i'r ymgeisydd anfon ei gais ar gyfer datblygiad seilwaith cenedlaethol arfaethedig at yr Arolygiaeth Gynllunio, mae'n rhaid iddo gynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Mae hyn yn digwydd yn ystod y cam cyn-ymgeisio.

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd ymgynghori â'r canlynol:

  • y cyhoedd
  • cynghorau plwyf
  • ymgyngoreion statudol
  • awdurdodau lleol a chynghorau
  • tirfeddianwyr a thenantiaid

Mae'n rhaid iddo gasglu'r holl sylwadau a gwybodaeth gan aelodau o'r cyhoedd a sefydliadau. Mae'r adborth hwn yn cael ei ystyried a'i ddefnyddio i helpu i ffurfio'r prosiect arfaethedig.

Yr hyn y mae'n rhaid i'r ymgeisydd ei wneud

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd hysbysebu ei gyfnod ymgynghori.

Mae'n rhaid i'r hysbyseb ymddangos am bythefnos o leiaf a chynnwys:

  • disgrifiad o'r prosiect
  • ble y gallwch gael gwybod mwy am y prosiect
  • y dyddiad cau ar gyfer anfon eich sylwadau ato

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd hefyd gysylltu ag ymgyngoreion ac unrhyw un y mae'r datblygiad arfaethedig yn effeithio ar eu tir.

Sut gallwch gymryd rhan ar yr adeg hon

Bydd angen i chi gysylltu â'r ymgeisydd i gymryd rhan ar yr adeg hon.

Os oes tudalen brosiect ar y wefan hon, gallwch ddod o hyd i fanylion yr ymgeisydd yno. Fel arall, gallwch ganfod gwybodaeth yn y newyddion lleol neu ofyn i'ch awdurdod lleol.

Mae'n bwysig iawn cymryd rhan yn ymgynghoriad yr ymgeisydd yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Dyma'ch cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau a mynegi unrhyw bryderon, a chael gwybod mwy am y datblygiad a sut gallai effeithio ar yr ardal.

Yr hyn y gallwch ei wneud os yw'r cais eisoes wedi cael ei gyflwyno

Os yw'r cais wedi cael ei anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio, gallwch gymryd rhan trwy gofrestru i leisio'ch barn.

Mae'n rhaid i chi wneud hyn pan fydd y prosiect yn y cam cyn-archwilio.

  1. Step 1 Cymryd rhan yn ystod y cam cyn-ymgeisio

    Y cam cyn-ymgeisio yw cam cyntaf y broses. Dyma pryd mae'n rhaid i'r ymgeisydd ymgynghori â phobl a sefydliadau. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth am sut gallwch gyflwyno'ch sylwadau iddo. Mae'n bwysig cymryd rhan yn ystod y cam hwn oherwydd gallwch ddylanwadu ar y cais cyn i'r ymgeisydd ei anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio.

    1. Cymryd rhan cyn i'r cais gael ei gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio.
  2. Step 2 Cofrestru i leisio'ch barn am brosiect seilwaith cenedlaethol

    I gymryd rhan ar ôl i'r cais gael ei gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio, mae'n rhaid i chi gofrestru i leisio'ch barn yn ystod y cam cyn-archwilio. Dyma'r adeg pan fyddwn yn paratoi ar gyfer archwiliad. Byddwn yn amlygu arolygydd neu banel o arolygwyr a elwir yn Awdurdod Archwilio ac yn llunio cynllun ar gyfer y cam archwilio. Bydd y cyfnod cofrestru ar agor am 30 niwrnod o leiaf. Bydd y cam cyn-archwilio'n cymryd tua 3 mis.

    1. Sut i gofrestru i leisio'ch barn am brosiect seilwaith cenedlaethol.
  3. Step 3 Cymryd rhan yn y cyfarfod rhagarweiniol

    Yn ystod y misoedd ar ôl i'r cyfnod cofrestru gau, bydd yr Awdurdod Archwilio'n cynnal cyfarfod rhagarweiniol. Diben y cyfarfod hwn yw trafod y prif faterion y bydd yr Awdurdod Archwilio'n eu harchwilio, a'r amserlen ar gyfer y cam archwilio.

    1. Yr hyn y gallwch ei wneud yn y cyfarfod rhagarweiniol.
  4. Step 4 Lleisio'ch barn yn ystod yr archwiliad o'r cais

    Yn ystod y cam hwn, mae'r Awdurdod Archwilio'n gofyn cwestiynau am y datblygiad arfaethedig. Gall yr ymgeisydd ac unrhyw un sydd wedi cofrestru i leisio'i farn wneud sylwadau erbyn y terfynau amser yn amserlen yr archwiliad. Gall unrhyw un fynychu gwrandawiadau a allai gael eu cynnal yn ystod y cam hwn. Gall yr archwiliad gymryd hyd at 6 mis.

    1. Cyflwyno sylwadau yn ystod y cam archwilio.
  5. Step 5 Yr hyn y gallwch ei wneud ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud

    Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol wedi gwneud penderfyniad, mae cyfnod 6 wythnos pryd y gall pobl herio'r penderfyniad yn yr Uchel Lys. Gelwir hyn yn adolygiad barnwrol.

    1. Beth fydd yn digwydd ar ôl i benderfyniad gael ei wneud?