Skip to main content
Dod o hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol

Gwasanaeth beta yw hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Datganiad hygyrchedd ar gyfer prosiectau seilwaith cenedlaethol

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://applications-service-test.planninginspectorate.gov.uk/.

Defnyddio'r gwasanaeth hwn

Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl ddefnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun mor hawdd â phosibl ei ddeall.

Mae AbilityNet yn cynnig cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1..

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw rhai tudalennau a dogfennau atodedig wedi'u hysgrifennu mewn iaith glir
  • mae llawer o ddogfennau mewn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch
  • fe allai fod rhai dolenni nad ydynt yn rhoi digon o gyd-destun
  • fe allai rhai rhannau o'r safle fod yn anodd eu llywio i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol

Mae'r adran isod ar statws cydymffurfio yn rhoi mwy o fanylion am y rhannau o'r safle nad ydynt yn gwbl hygyrch.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 10 niwrnod gwaith.

Adrodd am broblemau hygyrchedd â'r gwasanaeth hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni ein gofynion hygyrchedd, anfonwch neges e-bost atom: NIEnquiries@planninginspectorate.gov.uk

Gweithdrefn orfodi

Os byddwch yn cysylltu â ni gyda chwyn ac yn anfodlon ar ein hymateb, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi ymrwymo i wneud ei gwefannau'n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Mae'r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

  • Arsylwyd os yw defnyddiwr yn llywio'r dudalen gan ddefnyddio meddalwedd Dragon Naturally Speaking, nid yw'n gallu ehangu'r wybodaeth ychwanegol yn yr elfennau manylion Gwybodaeth am y Prosiect. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Lefel A: 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.1. Mae angen i'r mater hwn gael ei ddatrys yn Dragon Naturally Speaking. Yn lle hynny, gall defnyddwyr ddefnyddio MouseGrid, sef nodwedd yn ap Adnabod Llais Windows.
  • Os yw defnyddiwr yn llywio'r dudalen gan ddefnyddio iOS VoiceOver, ni roddir gwybod i'r defnyddiwr fod gwybodaeth ychwanegol nad yw wedi cael ei hehangu ar y sgrin. Oherwydd hyn, ni fyddai'r defnyddiwr yn gwybod bod mwy o wybodaeth i'w chlywed o fewn yr elfennau Gwybodaeth am y Prosiect. Os yw'r defnyddiwr yn clicio ar yr adran i'w hehangu, nid oes cyhoeddiad i ddweud bod hyn wedi digwydd. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Lefel A: Enw, Rôl, Gwerth WCAG. 2.1.
  • I'r rhai sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol, mae'r gallu i lanlwytho ffeiliau gan ddefnyddio meddalwedd Dragon Naturally Speaking yn methu. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Lefel A: 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth WCAG 2.1.

Dogfennau PDF a dogfennau nad ydynt yn HTML

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ni PDFs gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad i'n gwasanaethau, a ffurflenni wedi'u cyhoeddi fel dogfennau Word. Mae llawer o ddogfennau nad ydynt yn hygyrch mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys testunau coll amgen a strwythur dogfennau coll. Gall hyn olygu nad yw rhai dogfennau yn hygyrch i ddarllenwyr sgrin. Nid yw hyn yn cydymffurfio â WCAG Lefel A 2.1: 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth

  • nid yw rhai o'n ffeiliau PDF yn hygyrch gan nad ydynt wedi'u tagio'n gywir. Nid yw hyn yn cydymffurfio â WCAG Lefel A 2.1: 1.3.2: Dilyniant Ystyrlon.
  • mae gan rai o'n dogfennau ddiagramau. Nid oes gan y delweddau hyn ddewis arall testun. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Lefel A WCAG 2.1: 1.1.1 Cynnwys Di-destun.

Gweld polisi dogfen hygyrch y sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen i adrodd am unrhyw broblemau neu ofyn am ddogfennau mewn fformat arall. Os oes mwy nag un sefydliad wedi'i restru, edrychwch ar bolisi dogfen hygyrch y cyntaf.

Lle bo modd, rydym yn ceisio trwsio'r rhain cyn gynted ag y gallwn.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn mynnu ein bod yn cywiro dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hygyrchedd hwn gyntaf ar 8 Tachwedd 2023.

Cafwyd adroddiad hygyrchedd o'r gwasanaeth gan Zoonou ym mis Hydref 2023 yn erbyn safon AA WCAG 2.1. Roedd yn cynnwys profion awtomataidd a llaw helaeth ar ystod o borwyr a thechnolegau cynorthwyol.

Adolygwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 24 Hydref 2024.